Bygythiad i hen fflat Dylan Thomas
- Cyhoeddwyd

Mae brwydr ar droed i achub y fflat yn Efrog Newydd oedd yn cael ei defnyddio gan Dylan Thomas yn ei gyfnod yn America.
Yn y fflat yn yr Hotel Chelsea yr aeth i goma bedwar diwrnod cyn ei farwolaeth ar 9 Tachwedd 1953.
Mae cwmni o ddatblygwyr wedi bod yn ceisio adnewyddu'r adeilad am bron i ddegawd, ond ddiwedd yr wythnos mae'r gwaith i fod i ddechrau ar fynedfa'r fflat.
Dywedodd Geoff Haden, oedd yn gyfrifol am adnewyddu hen gartref y bardd yn 5 Cwmdonkin Drive yn Abertawe: "Mae'r datblygwyr wedi dweud wrth berchennog presennol y fflat [Arthur Nash] eu bod am ddechrau dymchwel rhan o'r fflat er mwyn gwneud lle am risiau newydd.
"Mae Mr Nash yn ceisio amddiffyn ei gartref, ond hefyd darn o dreftadaeth lenyddol a dyna pam yr ydym yn ymuno â'r ymgyrch ar ddwy ochr Môr Iwerydd.
"Mae'n ymddangos yn wirion i mi bod yr adeilad yma mor enwog ac ar Gofrestr Llefydd Hanesyddol y ddinas, ond eto bod pobl Efrog Newydd yn barod i adael i hyn ddigwydd."
Dywedodd berchennog presennol y fflat, Arthur Nash: "Mae ymwelwyr diri wedi bod yma'n rhoi teyrnged i Dylan Thomas, ac mae lleoliad y grisiau newydd yn ergyd i'r rhai sy'n ceisio gwarchod treftadaeth yn erbyn dymuniad y datblygwyr."