Oedi ar drenau wrth i lori daro pont yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Dywedodd Trenau Arriva Cymru bod y cerbyd wedi taro'r bont ar Heol Biwt am 13:00
Mae teithwyr ar drenau yn ne Cymru yn wynebu oedi ar ôl i lori daro pont rheilffordd yng nghanol Caerdydd.
Mae gwasanaethau trwy orsaf Heol y Frenhines wedi eu heffeithio o amser cinio ddydd Iau gyda threnau i'r cymoedd, Penarth a'r Barri wedi eu hamharu arnynt.
Mae bysiau yn cymryd y baich ar gyfer teithiau i ac o Fro Morgannwg.
Dywedodd Trenau Arriva Cymru bod cerbyd wedi taro'r bont ar Heol Biwt am 13:00.
Mae oedi o hyd at 45 munud ar gyfer trenau sy'n teithio trwy orsaf Heol y Frenhines.
Dywedodd Network Rail bod peirianwyr wedi cael eu gyrru i ymchwilio os oedd y bont yn ddiogel, ac nad oedd unrhyw ddifrod iddo.