Cynllun Twf Swyddi Cymru yn cau dros dro
- Cyhoeddwyd

Mae cynllun swyddi Llywodraeth Cymru wedi ei gau dros dro wrth i gynllun newydd gael ei gymeradwyo.
Mae'r llywodraeth wedi gwadu honiad y Ceidwadwyr bod y cynllun wedi ei gau yn barhaol.
Roedd Twf Swyddi Cymru yn cynnig swydd am chwe mis i bobl rhwng 16 a 24 oed oedd yn ddi-waith.
Llywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd oedd yn ariannu'r cynllun, sydd wedi bod yn llwyddiant yn ôl gweinidogion Cymru, gan roi swyddi i filoedd o bobl ifanc.
Dwedodd Llywodraeth Cymru bod cynllun newydd "yn canolbwyntio ar anghenion cyflogaeth pobl ifanc yn cael ei ddatblygu".
'Llwyddiant mawr'
Ym mis Mawrth, dywedodd arweinydd Llafur, Ed Miliband, ei fod eisiau defnyddio Twf Swyddi Cymru fel model i helpu pobl i mewn i waith os byddai ei blaid mewn grym.
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth bod y cynllun wedi bod yn "llwyddiant mawr".
"Bwriad y cynllun oedd creu a llenwi 12,000 o swyddi ac erbyn hyn mae wedi helpu i greu dros 17,000 o swyddi ac wedi llenwi bron 15,000 o'r rheiny i bobl rhwng 16 a 24."
Ychwanegodd bod y cynllun wedi gwneud cyfraniad "sylweddol" i leihau diweithdra pobl ifanc.
"Daeth cyllideb Cronfa Gymdeithasol Ewrop ar gyfer 2007-2013 i ben ar 31 Mawrth ac rydyn ni wedi dechrau'r gwaith o greu cynllun yn ei le yn barod."
Y bwriad yw dechrau'r cynllun newydd o fewn chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol.
'Ar goll'
Yn ôl y Ceidwadwyr mae'r ffaith bod y cynllun wedi ei gau yn "dystiolaeth bod y blaid Lafur ar goll o ran yr economi".
Dywedodd William Graham AC: "Dylai Ed Miliband esbonio pam bod arweinydd y blaid yng Nghymru wedi cau eu cynllun allweddol ac esbonio pa bolisïau sydd ganddo i greu swyddi yn y dyfodol."
Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol nad oedd y cynllun yn effeithiol, a bod ymchwil yn dangos y byddai dros 70% o'r rheiny ar y cynllun wedi cael swyddi heb gymorth trethdalwyr.
Ychwanegodd Jenny Willott AS: "Ond mae methiant Llywodraeth Lafur Cymru i sicrhau cynllun newydd yn ei le yn syfrdanol. Mae'n ymddangos unwaith eto bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi gwneud camgymeriad."
Mae Plaid Cymru yn honni bod diwedd Twf Swyddi Cymru yn dangos "anallu Llafur a Llywodraeth Cymru wrth drin pobl ifanc a'r economi".
Dywedodd ymgeisydd y blaid ym Mro Morgannwg, Ian Johnson: "Yn gynharach eleni dywedodd Ed Miliband pa mor wych oedd y cynllun yma. Heddiw, mae ei unig lywodraeth yn y DU yn embaras iddo, wrth iddyn nhw danseilio ei addewid i bobl ifanc."
Yn ol Nathan Gill ar ran UKIP dyma'r "esiampl ddiweddaraf o fethiant llywodraeth Lafur".
Ychwanegodd: "Mae angen i lywodraeth ganolbwyntio ar greu'r amodau cywir i fusnesau ehangu ac i fusnesau newydd ddechrau. Yr unig ffordd y gallwn ni gwblhau hyn yw tynnu'n ôl o'r Undeb Ewropeaidd sy'n treulio'u dyddiau yn meddwl am ffyrdd newydd o dagu arloesi a chreadigrwydd mewn ffurf rheolau a chyfarwyddiadau."
Straeon perthnasol
- 10 Ebrill 2014
- 24 Rhagfyr 2013