Tân warws Llangadog 'dan reolaeth'

Tân

Mae tân mewn dau warws yn Sir Gaerfyrddin bellach dan reolaeth ac mae ffordd oedd ar gau wedi ail-agor.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub y Gorllewin a'r Canolbarth eu galw i'r tân ar safle'r hen Sawmills yn Llangadog ychydig cyn 10:00.

Roedd yr A4069 ei chau am gyfnod yn ogystal â chanolfan ailgylchu'r cyngor.

Roedd rhaid dargyfeirio gwasanaeth bws oddi wrth y pentref hefyd.

Ni chafodd unrhyw un eu hanafu.