Canlyniadau'r PRO12 nos Wener
- Cyhoeddwyd

Treviso 13 - 33 Gweilch
Fe wnaeth dau gais hwyr gan Justin Tipuric a Rhys Webb sicrhau buddugoliaeth pwynt bonws i'r Gweilch yn Treviso i'w symud i fyny i'r ail safle yn y PRO12.
Sgoriodd yr asgellwr Eli Walker cyn yr hanner i roi'r Gweilch ar y blaen o 11-3.
Fe wnaeth cais Simone Ragusi a chicio dibynadwy Jayden Hayward roi'r Eidalwyr ar y blaen wrth i'r prop Nicky Smith a Webb gael eu gyrru i'r gell gosb.
Ond fe wnaeth ceisiadau ail-hanner gan Dan Evans, Tipuric a Webb sicrhau'r pwyntiau i'r Gweilch.
Glasgow 36-17 Gleision
Fe sgoriodd Peter Horne dri chais a chicio 9 pwynt pellach wrth i arweinwyr y PRO12 lwyddo i gael buddigoliaeth pwynt bonws dros y Gleision.
Dougie Hall sgoriodd y cais cyntaf i'r tîm cartref, cyn i Horne groesi'r gwyngalch dair gwaith.
Ychwanegodd Adam Ashe ei enw i'r rhestr sgorwyr yn gynnar yn yr ail hanner, gyda Finn Russell yn trosi.
Fe lwyddodd i Gareth Davies a Dan Fish sgorio'n hwyr i Gaerdydd ond doedd y canlyniad byth dan fygythiad.