Delweddau anweddus: Plismon yn y ddalfa
- Cyhoeddwyd

Roedd y gwrandawiad yn Llys y Goron Yr Wyddgrug
Mae plismon, sydd wedi ei gyhuddo o feddu ar ddelweddau anweddus o blant, yn y ddalfa.
Cafodd James Calveley Evans, 33 oed o Fostyn yn wreddiol, ei gyhuddo o geisio denu merch 12 oed i bwrpas rhywiol.
Roedd y gwrandawiad rhagarweiniol yn Llys y Goron Yr Wyddgrug.
Mae'r cwnstabl wedi ei wahardd o'i swydd a bydd gwrandawiad ple ar Fai 22. Bydd achos yn Llys y Goron ar Fedi 21.
Clywodd y llys fod y delweddau'n perthyn i Adran B ac C a bod y drosedd honedig ar Fawrth 31.
Roedd honiadau iddo geisio denu'r ferch 12 oed drwy ddefnyddio e-bost ar Chwefror 6 a 7.
Cafodd ei arestio ar Fawrth 31.