Cyn bennaeth cyllid cwmni o Sir Ddinbych yn y llys
- Published
Mae cyn bennaeth cyllid wedi bod yn y llys ar gyhuddiad o dwyll yn ymwneud â £30,000.
Clywodd Llys Ynadon Prestatyn honiadau fod Glyn Vivian Evans, 66 oed, wedi cyflawni'r drosedd rhwng 2007 a 2010 pan oedd yn gweithio i gwmni Be Marble and Granite yn Chwarel Craig Lelo, Bryn Saith Marchog ger Corwen.
Ers hynny mae'r cwmni wedi dod i ben.
Cafodd y diffynnydd fechnïaeth a bydd yr achos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ar Ebrill 17.
Dyw e ddim wedi cyflwyno ple ac erbyn hyn, mae'n byw yng Nglyn Ebwy.