Cyflwyno mesurau i geisio lleddfu traffig Ynys y Barri
- Cyhoeddwyd

Roedd gyrwyr yn sownd mewn traffig disymud yn dilyn ail-agoriad Parc Antur Ynys y Barri
Mae mesurau newydd yn cael eu cyflwyno i leddfu'r traffig yn Ynys y Barri ar ôl cwynion am y traffig y penwythnos diwethaf.
Roedd gyrwyr yn sownd mewn traffig am oriau dros benwythnos y Pasg yn dilyn ail-agor Parc Antur Ynys y Barri.
Wrth ddisgwyl penwythnos prysur arall, fe fydd arbrawf yn golygu y bydd cyfordd Ship Hill yn rhoi blaenoriaeth i draffig sydd yn gadael y parc.
Fe fydd swyddogion traffig hefyd yn helpu i gadw traffig i symud rhwng 14:00 a 19:00 ddydd Sadwrn a dydd Sul.
Bu rhaid i'r heddlu helpu i leddfu traffig dros benwythnos y Pasg