Rhybudd heddlu wedi achos cyffuriau

  • Cyhoeddwyd
CwchFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Fe wnaeth yr heddlu feddiannu cwch cyflym yn dilyn Ymgyrch Yonside

Mae'r heddlu wedi rhybuddio pobl sydd yn delio mewn cyffuriau y byddan nhw'n cael eu "herlid", yn dilyn carcharu 26 o bobl o ogledd Cymru.

Roedd y gang wedi bod yn gwerthu cocên a chanabis o Gaernarfon ac wedi bod yn byw "bywyd o gyfoeth" cyn i'r heddlu eu dal.

Cafodd arian, ceir a chwch cyflym eu meddiannu gan y gang.

Ond dywedodd y Ditectif Arolygydd Arwyn Jones o Heddlu Gogledd Cymru fod yr ymchwiliad yn ymgais i roi terfyn ar y trais a'r niwed yr oedd y gang yn ei achosi yn y gymuned.

"Rydym yn credu fod y gang hwn wedi bod yn fygythiad anferth i ogledd orllewin Cymru o gofio am lefel y trais a maint y rhwydwaith cyffuriau oedd dan sylw", meddai Arwyn Jones, oedd yn brif swyddog ymchwilio ar ran Ymgyrch Yonside, oedd wedi para am bum mlynedd.

"Fe wnaethon ni feddiannu arian o ganlyniad i'r ymchwiliad yma ond rydym yn credu fod arweinydd y gang, Gavin Thorman a'i ddynion yn byw bywyd o gyfoeth mawr.

"Rydym wedi meddiannu cerbydau. Rydym wedi meddiannu cwch cyflym oedd yn berchen i Gavin Thorman ac felly mae hyn yn dangos y math o fywyd yr oedd yn ei fyw".

"Ergyd sylweddol"

Yn ôl Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Winston Roddick, roedd y dyfarniadau wedi "delio ergyd sylweddol i'r farchnad gyffuriau anghyfreithlon ac yn anfon neges bwysig i bobl oedd yn delio mewn cyffuriau y byddan nhw yn cael eu herlyn a'i dwyn i gyfiawnder."

Cafodd gang arall o 13 oedd yn cyflenwi cocên o Lerpwl i dde orllewin a de Cymru eu carcharu ddydd Gwener hefyd wedi i werth £50,000 o'r cyffur gael ei feddiannu gan Heddlu Dyfed Powys.

Roedd y gang wedi cyflenwi cyffuriau i Gaerfyrddin, Aberdaugleddau, Doc Penfro a'r Rhondda.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Huw Davies o Heddlu Dyfed Powys fod y dyfarniadau yn "anfon neges glir i droseddwyr na fydd troseddau yn ymwneud â chyffuriau yn cael eu derbyn."

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Euog: Cafodd y gang o'r gogledd ddedfrydau o rhwng 12 mlynedd o garchar a 10 mis wedi ei ohirio