Abertawe 1 - 1 Everton

  • Cyhoeddwyd
AbertaweFfynhonnell y llun, Getty Images

Ddegawd union yn ôl fe chwaraeodd Roberto Martinez a Garry Monk ochr yn ochr â'i gilydd i'r Elyrch yn erbyn Lincoln City o flaen torf o 5,000.

Heddiw, a'r ddau yn rheolwyr yn Uwch Gynghrair Lloegr, daeth y ddau wyneb yn wyneb yn y Liberty, wrth i Martinez ddychwelyd gydag Everton.

Cyfartal oedd y canlyniad yn y diwedd a bydd yn rhaid i'r ddau reolwr fodloni ar dderbyn pwynt yr un.

Yr ymwelwyr oedd y cyntaf i sgorio, gyda gôl gan Aaron Lennon, sydd ar fenthyg i Everton, ychydig cyn hanner amser.

Llwyddodd Abertawe i fwrw'n ôl yn ystod yr ail hanner gyda Jonjo Shelvey yn rhwydo cic gosb yn dilyn camgymeriad gan Seamus Coleman.

Fe dderbyniodd ymosodwr Abertawe Bafetimbi Gomis anaf ac fe fu'n rhaid iddo adael y cae, ond fe fydd Garry Monk yn fodlon gyda'r perfformiad a'r canlyniad ar ôl brwydro'n ôl i sicrhau gêm gyfartal.