Protest dros swyddfa bapur newydd
- Cyhoeddwyd

Cafodd protest ei chynnal yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn i wrthwynebu cau swyddfa papur newydd lleol.
Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr oedd wedi trefnu'r brotest, ac mae'r undeb yn gwrthwynebu cynlluniau cwmni Trinity Mirror i gau swyddfa papur newydd y Caernarfon & Denbigh Herald yn y dref.
Dywed Trinity Mirror na fyddai cau'r swyddfa yn cael "unrhyw effaith" ar staff golygyddol y papur na'n effeithio chwaith ar bapurau lleol y cwmni fel yr Herald.
"Ergyd anferth"
Ond dywedodd Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr y byddai cau swyddfa'r Herald yn y dref yn "ergyd anferth i'r dref ac i ddemocratiaeth yn lleol."
Mae Trinity Mirror yn dweud fod yn well gan y cwmni fuddsoddi yn ei wasanaethau yn hytrach na mewn adeiladau sydd wedi "dyddio".
Yn ôl y wefan newyddiadurol HoldtheFrontPage, bydd staff yr Herald yn cael eu symud i swyddfeydd y North Wales Daily Post yng Nghyffordd Llandudno.
"Ymrwymiad"
Dywedodd llefarydd ar ran Trinity Mirror: "Rydym wedi ein hymrwymo i gyfryngau rhanbarthol ac mae ein papurau yn yr ardal hon yn rhannau pwysig iawn o'n portffolio.
"Yn yr oes sydd ohoni, mae llawer o fusnesau yn gweld fod llai o angen am swyddfeydd rhanbarthol ac nid ydym ni yn wahanol yn hynny o beth wrth i newyddiadurwyr weithio yn eu cymunedau ag ar eu pen eu hunain llawer mwy."