Leeds 1 - 2 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Elland RoadFfynhonnell y llun, EPICS

Fe lwyddodd Caerdydd i gipio triphwynt gwerthfawr oddi cartref yn Elland Road ddydd Sadwrn, gyda thîm Russell Slade yn sgorio gyntaf gyda gôl gan Sean Morrison ar ôl cwta chwarter awr.

Llwyddodd Morrison i rwydo yn dilyn cic gornel, gyda chymorth gan Lee Peltier.

Cwta dri munud yn ddiweddarach roedd y tîm cartref yn gyfartal - gyda Kalvin Phillips yn sgorio yn dilyn croesiad gan Charlie Taylor.

Awr i mewn i'r gêm, fe lwyddodd Caerdydd i fynd ar y blaen unwaith eto gydag Aron Gunnarsson y tro hwn yn rhwydo yn dilyn cic gornel.

Er nad oedd cefnogwyr Caerdydd wedi rhannu dathliadau'r chwaraewyr gan eu bod wedi gwrthod teithio i gefnogi eu clwb mewn protest am y nifer fach o docynnau oedd ar gael, ac am y cyfyngderau teithio oedd wedi eu gosod o flaen llaw ar y rhai oedd wedi gobeithio mynd i Leeds, fe fydd Russell Slade a'i chwaraewyr yn falch o'r canlyniad a'r triphwynt haeddianol.