Bywyd newydd i hen injan stêm
- Cyhoeddwyd
Bydd hen injan stêm oedd yn arfer cael ei defnyddio yn chwarel y Penrhyn ym Methesda dros ganrif yn ôl yn cael ei dadorchuddio yng ngorsaf Llanuwchllyn ar Reilffordd Llyn Tegid ddydd Llun.
Dechreuodd injan 'Winifred' yn 1885, ond ar ôl i'r gwaith o dynnu llechi ddod i ben yn y 60au bu mewn amgueddfeydd yn yr UDA am ddegawdau tan i un o gefnogwyr Reilffordd Llyn Tegid, Julien Birley, ei phrynu ar gyfer ei hadnewyddu.
Cafodd yr injan ei chludo i Lanuwchllyn yn 2012 a fyth ers hynny mae gwirfoddolwyr a gweithwyr wedi gweithio'n ddyfal i'w thrwsio.
Ddydd Llun fe fydd yr hen injan yn 130 oed a'r bwriad yw ei defnyddio i gludo teithwyr yn hytrach na llechi fel yr oedd yn arfer ei wneud yn chwarel y Penrhyn.
Bydd 'Winifred' yn cael ei hail-lansio yn Llanuwchllyn gan Pete Waterman sydd wedi bod yn ddylanwadol iawn yn y diwydiant pop dros y blynyddoedd, ac mae'n gefnogwr brwd o reilffyrdd bychain y wlad.
Un arall fydd yn dathlu atgyfodiad 'Winifred' ddydd Llun ydi Emrys Austin Owen. Mr Owen oedd un o yrwyr olaf y trên tra roedd hi'n cael ei defnyddio yn chwarel y Penrhyn.