Dynes o Gaerdydd ar goll yn Laos
- Published
Mae dynes o Gaerdydd ar goll yn dilyn digwyddiad ar gwch yn Laos yn Asia. Aeth Johanna Powell, sydd yn gweithio fel golygydd lluniau i BBC Cymru, ar goll ddydd Sadwrn.
Dywed y Swyddfa Dramor eu bod yn gweithio gyda'r awdurdodau yn y wlad yn dilyn digwyddiad yn ymwneud â chwch bleser ar yr Afon Mekong ger Pak Beng.
Mae Llysgenhadaeth Prydain yn darparu cymorth i'r teulu. Dywed BBC Cymru fod y gorfforaeth yn pryderu am Johanna Powell ac mae mewn cysylltiad gyda'i theulu i gynnig cefnogaeth.
image copyrightTango7174