Criced: Sir Gaerlŷr v Morgannwg
- Cyhoeddwyd
Cafodd Morgannwg ddechrau ardderchog ar ddiwrnod cyntaf eu gêm yn erbyn Sir Gaerlŷr ddydd Sul y ail adran Pencampwriaeth y Siroedd.
Llwyddodd y tîm i sgorio 294 am ddwy wiced yn eu batiad cyntaf, gyda'r capten Jacobus Rudolph yn sgorio 111 o rediadau cyn cael ei ddal gan y wicedwr Niall O'Brien, a William Bragg yn sgorio 113 heb fod allan.
Bydd yr ymwelwyr yn dechrau'r ail ddiwrnod yn hyderus ar ôl gosod seiliau mor gadarn yn ystod y diwrnod cyntaf o chwarae.