Pro12: Dreigiau Gwent v Leinster

  • Cyhoeddwyd
DreigiauFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Llwyddodd Dreigiau Gwent i frwydro'n ôl i hawlio buddugoliaeth haeddianol yn erbyn Leinster yn y Pro12 brynhawn dydd Sul.

Cafodd y tîm ei ysbrydoli gan yr eilydd James Benjamin, ddaeth ar y cael ar ôl hanner amser wrth i'r Dreigiau sicrhau buddugoliaeth, ar ôl i'r Gwyddelod sicrhau mantais o 22-8 am gyfnod.

Roedd dau gais gan Ben Te'o ac un gan Jimmy Gopperth i Leinster wedi golygu fod y Dreigiau'n wynebu talcen caled yn yr ail hanner, ond llwyddodd cais gan Jack Dixon ac un gan Benjamin sicrhau prynhawn llwyddiannus i'r Dreigiau.