Laos: Parhau i chwilio am Gymraes

  • Cyhoeddwyd
Johanna Powell
Disgrifiad o’r llun,
Johanna Powell: Y chwilio yn parhau

Yn Laos, mae'r chwilio yn parhau am ddynes o Gaerdydd sydd wedi bod ar goll ar ôl i gwch fynd i drafferthion ddydd Sadwrn.

Roedd Johanna Powell, 37 oed, yn teithio gyda thri ffrind o Gymru oedd ymhlith 10 o bobl oedd ar fwrdd y cwch ar afon Mekong.

Llwyddodd y naw arall i nofio i'r lan, ond doedd dim golwg o Ms Powell, sydd yn gweithio fel golygydd lluniau i BBC Cymru ac yn wreiddiol o Bontypridd.

Mae'n debyg fod y cwch ar ddiwrnod olaf taith ddeuddydd i lawr yr afon pan drodd wyneb i waered tua 10:00 fore Sadwrn.

Dyw hi ddim yn glir beth oedd achos y ddamwain.

Mae Adisak Star, un o gyd berchnogion y cwmni wnaeth drefnu'r daith, yn dweud i'r cwch suddo yn gyflym ar ôl taro craig.

"Fe waeth y cwch oddi tanodd mewn munud," meddai Mr Star, o gwmni Nagi, cwmni o wlad Thai.

Yn ôl rhai twristiaid roedd criw o tua phump ar y cwch.

Yn ôl Mr Star fe wnaeth y teithwyr eraill lwyddo i neidio oddi ar y cwch.

Dywedodd un o'r rhai wnaeth lwyddo i gyrraedd y lan iddi redeg ar do'r cwch cyn iddo suddo ac yna nofio' i'r lan.

"Roedd e'n frawychus, roedd pawb yn credu eu bod am farw."

Cafodd y teithwyr eraill eu sgubo lawr gan yr afon tan iddynt gael ei hachub.

Yn ogystal â Ms Powell a'i thri ffrind, roedd yna gwpl o Brydain ar fwrdd y cwch, tri pherson o wlad Thai ac un o'r Swistir.

Mae swyddogion Llys Genhadaeth Prydain mewn cyswllt a'r awdurdodau lleol yn ceisio cael mwy o wybodaeth ac yn darparu cymorth i'r teulu.

Ffynhonnell y llun, Tango7174
Disgrifiad o’r llun,
Mae Llysgenhadaeth Prydain yn darparu cymorth i deulu Johanna Powell