Laos: Dod o hyd i gorff
- Cyhoeddwyd

Mae'r awdurdodau yn Laos sy'n ceisio dod o hyd i ddynes o Gaerdydd aeth ar goll ar afon Mekong wedi dod o hyd i gorff.
Dywedodd teulu Johanna Powell, 37 oed, fod y Swyddfa Gartref wedi cysylltu â nhw gyda'r wybodaeth ddydd Llun.
Dyw'r corff heb gael ei adnabod yn ffurfiol.
Yn y cyfamser, dywedodd Adisak Star, un o gyd berchnogion y cwmni wnaeth drefnu'r daith, bod capten y llong yn cael ei holi gan yr heddlu. Nid yw hynny wedi ei gadarnhau.
Sian Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg y BBC yn cofio Johanna Powell
'Oddi tanodd mewn munud'
Fe aeth Ms Powell ar goll ar ôl i gwch fynd i drafferthion ddydd Sadwrn.
Roedd hi'n teithio gyda thri ffrind o Gymru oedd ymhlith 10 o bobl oedd ar fwrdd y cwch.
Llwyddodd y naw arall i nofio i'r lan, ond doedd dim golwg o Ms Powell, sydd yn gweithio fel golygydd lluniau i BBC Cymru ac yn wreiddiol o Bontypridd.
Mae'n debyg fod y cwch ar ddiwrnod olaf taith ddeuddydd i lawr yr afon pan drodd wyneb i waered tua 10:00 fore Sadwrn.
Dyw hi ddim yn glir beth oedd achos y ddamwain.
Dywedodd Mr Star i'r cwch suddo yn gyflym ar ôl taro craig.
"Fe aeth y cwch oddi tanodd mewn munud," meddai Mr Star, o gwmni Nagi, cwmni o wlad Thai.
Mae'n debyg fod criw o dri ar y cwch.
Yn ôl Mr Star fe wnaeth y teithwyr eraill lwyddo i neidio oddi ar y cwch.
Dywedodd un o'r rhai wnaeth lwyddo i gyrraedd y lan iddi redeg ar do'r cwch cyn iddo suddo ac yna nofio' i'r lan.
"Roedd e'n frawychus, roedd pawb yn credu eu bod am farw."
Cafodd y teithwyr eraill eu sgubo lawr gan yr afon tan iddynt gael ei hachub.
Yn ogystal â Ms Powell a'i thri ffrind, roedd yna gwpl o Brydain ar fwrdd y cwch, tri pherson o wlad Thai ac un o'r Swistir.
Mae swyddogion Llys Genhadaeth Prydain mewn cyswllt â'r awdurdodau lleol yn ceisio cael mwy o wybodaeth ac yn darparu cymorth i'r teulu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2015