Katherine Jenkins yn disgwyl

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Katherine Jenkins Instagram/Twitter
Disgrifiad o’r llun,
Gwnaed y cyhoeddiad gan Katherine Jenkins ar wefannau cymdeithasol

Mae'r gantores Katherine Jenkins wedi cyhoeddi ei bod hi'n disgwyl ei babi cyntaf.

Fe wnaeth y mezzo-soprano, 34 oed, o Gastell-nedd, y cyhoeddiad ddydd Llun.

Cyhoeddodd lun ar ei chyfrifon Instagram a Twitter yn dangos par o esgidiau babi pinc ynghyd â llun ohoni hi a'i gwr Andrew Levitas.

"Yn hynod o gyffrous ac yn edrych ymlaen at gwrdd â'n merch fach ni," meddai'r testun wrth y llun.

Dywedodd: "Mae dechrau teulu a symud i ran hynod gyffrous o'n bywydau yn fendith fawr, ac rydym yn hynod ddiolchgar am hynny,2 meddai."

Fe wnaeth y seren glasurol briod Mr Levitas fis Medi'r llynedd.

Ffynhonnell y llun, Pascal Plessis/Camerapress
Disgrifiad o’r llun,
Priodas Katherine Jenkins ac Andrew Levitas