Trafod dyfodol economaidd Cymru

Bydd yr arbenigwyr yn cwrdd ym Mhortmeirion dros dridiau Image copyright Portmeirion

Fe fydd academyddion a dadansoddwyr yr economi'n cwrdd ym Mhortmeirion, ger Penrhyndeudraeth, dros y dyddiau nesaf i drafod sut i ddatblygu dyfodol economaidd Cymru.

Bydd y Symposiwm tridiau, a drefnir gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru gyda chefnogaeth Prifysgol Bangor, yn edrych ar gyfleoedd economaidd yn y byd sydd ohoni, gyda nifer o fusnesau'n gweithredu ar lefel ryngwladol.

Dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru: "Bydd y Symposiwm hwn yn dod â rhai o feddylwyr mwyaf cynhyrchiol y byd academaidd at ei gilydd i adolygu a thrafod materion pwysig sy'n effeithio ar ranbarthau bach ledled y byd, ond yn fwyaf pwysig, materion sy'n effeithio arnom ni yma yng Nghymru."

Dywedodd yr Athro Jerry Hunter o Brifysgol Bangor: "Mae datblygiad parhaus Cymru mewn cylchoedd cenedlaethol a rhyngwladol yn hollbwysig i Brifysgol Bangor.

"Mae ein hymchwil o safon fyd-eang wedi cael effaith, nid yn unig ar Gymru a'i phobl, ond mae hefyd wedi golygu elw i wledydd eraill ers blynyddoedd lawer."

Potensial

Ychwanegodd Dr Hunter: "Un o'r prif bwyntiau i'w trafod yn y Symposiwm yw'r rôl y gall entrepreneuriaid ei chwarae ym mhotensial economaidd unrhyw ranbarth. Mae llawer o'n myfyrwyr yn dangos nodweddion entrepreneuraidd ac yn cael eu hannog i ddatblygu'r sgiliau hyn o ddechrau eu gyrfa fel israddedigion. Mae gennym ni ddiddordeb i glywed mwy am y pwnc hwn a sut y gallwn ni gefnogi ein myfyrwyr ymhellach ar yr un pryd â chyfrannu at amcan Cymreig ehangach."

Ychwanegodd yr Athro Gerry Holtham, cynullydd rhaglen y digwyddiad: "Mae datblygu rhanbarthol a thwf yn hynod o bwysig yng Nghymru yn dilyn gwaddol o ddibyniaeth ar ddiwydiannau fel mwyngloddio, sydd bellach fwy neu lai ar ben.

"Mae cynnal digwyddiad gyda meddylwyr ac economegwyr mor ysbrydoledig ar ein tir ein hunain yn dipyn o gamp i'r Gymdeithas Ddysgedig a Chymru ac nid lleiaf am ei fod yn cynnig cyfle i ddysgu o safbwyntiau rhyngwladol a dysgu gwersi y gellir eu cymhwyso i Gymru."