Methodoleg ar gyfer y cwis etholaethol

  • Cyhoeddwyd

Mae'r fethodoleg hon ar gyfer pob cwis etholaethol ar wefan BBC Cymru Fyw yn cwmpasu'r canlynol:

  • Ffynonellau a rhagor o wybodaeth am gwestiynnau
  • Sgorio

Ffynonellau a rhagor o wybodaeth am gwestiynau:

Cwestiwn 1. O bob cant o etholwyr yma, faint wnaeth fwrw pleidlais yn etholiad 2010?

Mae'r nifer a bleidleisiodd wedi ei selio ar bleidleisiau dilys / etholwyr.

Ffynhonnell: Rallings & Thrasher

Cwestiwn 2. Beth yw`r oed cyfartalog yma?

Yr oed cyfartalog yw'r oed pan mae hanner y boblogaeth yn iau a hanner yn hŷn

Cwestiwn 3. O bob cant o bobl sy'n byw yma, faint a anwyd y tu allan i'r DU?

Cwestiwn 4. O bob cant o bobl, sy'n 16 oed neu'n hŷn, faint sy'n meddu ar radd neu gymhwyster arall o'r un lefel?

Cwestiwn 5. O bob cant o oedolion o oed gweithio, faint sy'n hawlio'r Lwfans ceisio gwaith?

Ffynhonnell: Budd-dal Chwilio am Waith (Nifer y rhai sy'n hawlio). Nifer y rhai a hawliodd fudd-dal ym mis Ionawr 2015 fel cyfran o'r boblogaeth rhwng 16-64 oed. Dyw ceisiadau am Gredyd Cynhwysol ddim wedi'u cynnwys eto.

Cwestiwn 6. Beth yw enillion cyfartalog wythnosol trigolion sydd mewn gwaith llawn-amser?

Yn seiliedig ar enillion cyfartalog, llawn-amser oedolion sy'n gweithio yn yr ardal.

Cwestiwn 7. O bob cant o bobl, faint sy'n dweud bod eu hiechyd eu hunain yn 'dda' neu'n 'dda iawn'?

Yn ôl sut wnaeth bobl asesu eu hiechyd eu hunain yng Nghyfrifiad 2011

Cwestiwn 8. O bob cant o bobl mewn gwaith sy'n byw yma, faint sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus?

Mae cyflogaeth sector cyhoeddus yn cynnwys llywodraeth leol a chanolog, gwasanaethau iechyd, yr heddlu, y lluoedd arfog, addysg a sefydliadau cyhoeddus eraill.

Cwestiwn 9. Beth yw pris cyfartalog eiddo yn yr etholaeth hon?

Yn seiliedig ar bob gwerthiant eiddo yn yr ardal yn ystod 2013.

Ffynonellau: Pris tŷ yn seiliedig ar ddata cyfatebol o Fynegai Prisiau Tai'r SYG yn 2013.

Roedd y data i gyd yn gywir ym mis Mawrth 2015.

Sgorio:

Mae'r sgoriau allan o 100. Mae bob cwestiwn yn gyfartal ac mae'r sgôr ar gyfer pob un yn seiliedig ar ba mor agos ydych chi i'r ateb cywir. Am bob ateb sydd yn fwy na 15% y naill ochr neu'r llall i'r ateb cywir, does dim marciau. Am atebion sydd o fewn 15%, mae'r sgôr yn cael ei roi fel cyfran o'r marciau yn dibynnu ar ba mor agos oedd yr ateb a roddwyd i'r ateb cywir.