Pryder am brinder meddygon teulu yng Nghymru?
- Cyhoeddwyd

Fe allai traean y meddygon teulu yng Nghymru fod wedi ymddeol o fewn y pum mlynedd nesaf yn ôl cymdeithas feddygol y BMA.
Maen nhw wedi holi dros 15,000 o feddygon trwy Brydain ac maen nhw'n dweud fod yr arolwg yn tanlinellu'r pwysau mae meddygon teulu yn ei wynebu.
Yn ôl y Dr Phil White, sy'n llefarydd ar ran y BMA yng Nghymru - mae'n sefyllfa "argyfyngus".
Ond mae llywodraeth Cymru'n mynnu bod mwy o feddygon teulu yn gweithio yng Nghymru o'i gymharu ag ychydig dros ddegawd yn ôl.
"Rydym yn wynebu sefyllfa ddifrifol, rydym eisoes yn wynebu problemau mewn ardaloedd fel Conwy a Phen Llŷn lle mae achosion o un meddyg teulu yn gwasanaethu 5,000 o gleifion".
Dywedodd hefyd bod yna argyfwng o ran nifer y bobl sy'n hyfforddi i fod yn feddygon teulu.
"Mae prinder yn nifer y bobl sy'n hyfforddi fel meddygon teulu, mae'n anochel y bydd gennym brinder meddygon teulu yng Nghymru, ac mae'n rhaid gwneud rhywbeth ar unwaith."
Mae llywodraeth Cymru wedi dweud bod 10% yn fwy o feddygon teulu yn gweithio yng Nghymru ers 2004.
'Pwysau gwaith uchel'
Wrth siarad ar y Post Cyntaf fore Mercher, dywedodd un meddyg teulu o Fangor, Dr Catrin Ellis Williams: "Efallai bod cynnydd o 10% o feddygon teulu yn gweithio yng Nghymru, ond mae nifer yr oriau mae bob meddyg teulu yn gweithio wedi lleihau, amryw yn dewis gweithio rhan-amser gan fod y pwysa' gwaith mor uchel.
"Rydan ni'n gweld 20% yn fwy o gleifion nag yr oedden ni bum mlynedd yn ôl... Felly mae'n rhaid cywasgu'r holl gleifion ychwanegol 'ma i mewn i ddiwrnod gwaith, sydd wrth reswm yn cynyddu'r pwysau.
"Hefyd, mae 'na ambell un yn ystyried ymddeol gan nad ydyn nhw eisio mynd drwy'r 'hwp' o werthuso eu gwaith, sydd eto yn rhywbeth sy'n cynyddu'r pwysau gwaith, ond eto mae'n rhaid i ni gael ein gwerthuso yn ein gwaith."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2015
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2015
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2015
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2014