Siop yn colli trwydded am 'werthu alcohol i blant'
- Cyhoeddwyd

Mae perchennog siop yng Nghasnewydd wedi colli'r hawl i werthu alcohol yn sgil honiadau ei fod wedi gwerthu diodydd i 55 o blant, rhai ohonynt yn 11 oed.
Mae swyddogion Safonau Masnach yn honni fod plant wedi eu cludo yn anymwybodol i'r ysbyty ar ôl yfed alcohol gafodd ei brynu yn siop B&J Newsagent ar Ffordd Cas-gwent.
Fe wnaeth yr adran Safonau Masnach dderbyn 13 o gwynion gan y cyhoedd yn erbyn siop Jayesh Patel.
Y cyngor sir sy'n rhoi trwydded i sefydliadau werthu alcohol.
Roedd adroddiad gerbron cynghorwyr ddydd Mawrth yn cynnwys tystiolaeth gan Safonau Masnach, Heddlu Gwent a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Ynddo roedd honiadau bod dwy ferch 12 oed wedi eu taro yn wael ar ôl prynu alcohol yn y siop a bu'n rhaid mynd a nhw i'r ysbyty.
Bu'n rhaid i'r heddlu hebrwng merch 13 oed i'w chartref oherwydd ei bod mor feddw nad oedd hi'n gallu cerdded.
Roedd tystiolaeth yn yr adroddiad hefyd yn dweud bod plant yn honni i'r perchennog ddweud wrthynt am roi poteli o alcohol yn eu pocedi yn eu cotiau er mwyn eu cuddio rhag camerâu cylch cyfyng.