Dyn wedi marw wedi i gar ei daro yn Nhredegar
- Cyhoeddwyd

Cafodd y dyn ei gymryd i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ble bu farw'n ddiweddarach
Mae dyn 76 oed wedi marw ar ôl cael ei daro gan gar ym Mlaenau Gwent.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar y Promenâd yn Nhredegar am 09:45 fore Mawrth.
Fe wnaeth y dyn ddioddef anafiadau difrifol i'w ben a chafodd ei gymryd i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ble bu farw'n ddiweddarach.
Mae dyn lleol 54 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n ddiofal.
Mae Heddlu Gwent wedi apelio i unrhyw un welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw ar 101.