BBC Cymru Fyw

Crwner i ymchwilio i farwolaeth plismones yn Abertawe

Published
image copyrightHeddlu De Cymru
image captionSarjant Louise Lucas yw'r ail berson i gael ei lladd ar Ffordd y Brenin

Fe fydd ymchwiliad crwner i farwolaeth plismones gafodd ei lladd ar ol cael ei tharo gan fws yn Abertawe yn cael ei agor ddydd Mercher.

Bu farw Sarjant Louise Lucas, 41 oed, wedi iddi gael ei tharo gan y bws ar Ffordd y Brenin ar 31 Mawrth.

Dywedodd crwner Abertawe Colin Phillips bod gan y ffordd "broblem difrifol gyda'i dyluniad" sydd rhaid cael sylw'r cyngor.

Ms Lucas yw'r ail berson i gael ei lladd ar y ffordd.

Fe wnaeth y cyngor roi caniatad i rwystrau gael eu codi ar y ffordd ddydd Mawrth.