Maniffesto Llafur yn 'cynnig gobaith' i Gymru

Lansio maniffesto Llafur Cymru
Image caption Carwyn Jones (chwith) yn lansio maniffesto Llafur Cymru yn Llandudno

Mae gan bleidleiswyr ddewis rhwng gobaith ac anobaith yn ôl y blaid Lafur, wrth lansio ei maniffesto ar gyfer yr etholiad cyffredinol.

Mae'n addo £375m yn ychwanegol i Gymru bob blwyddyn, daw o fesurau fel treth ar dai moethus sydd werth dros £2m, ac ail-gyflwyno'r lefel 50 ceiniog ar bobl sy'n ennill mwy na £150,000 y flwyddyn.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones ei fod yn "gynllun fydd yn gwneud gwahaniaeth i gymunedau ledled Cymru".

Yn ôl Mr Jones, mae'n dangos gwerth dwy lywodraeth Lafur yn gweithio dros Gymru.

'Rhannu gwobrau'

Yn lansio eu maniffesto yn Llandudno ddydd Iau, dywedodd Mr Jones ei fod eisiau rhoi'r "pum mlynedd diwethaf o lywodraeth glymbleidiol yn y llyfrau hanes".

"Mae gennym ni blaid Lafur sy'n edrych fel llywodraeth a'r Ceidwadwyr sy'n edrych fel gwrthblaid," meddai.

"Mae twf y pleidiau bychan yn ymyrraeth. Mae'r etholiad yma yn ddewis rhwng prif weinidog Llafur a phrif weinidog Torïaidd.

"Mae'n neges o obaith gan Lafur a neges o anobaith gan y Torïaid."

Image copyright Labour Party
Image caption Mae'r maniffesto yn cynnwys addewid o £375m yn ychwanegol bob blwyddyn i Gymru

Dywedodd llefarydd Llafur ar Gymru Owen Smith: "Fe fyddwn ni yn rhannu twf yn llawer tecach.

"Dyma'r blaid Lafur. Rhannu gwobrau, rhannu risgiau, undod.

"Mae'r maniffesto yn addewid i sicrhau bod Prydain yn gweithio unwaith eto ar gyfer teuluoedd sy'n gweithio."

Ychwanegodd: "Rwy'n credu y gwnawn ni ennill yr ymgyrch etholiadol. Rwy'n meddwl y gwnawn ni ei ennill yn dda."

Yn ogystal â'r arian ychwanegol i Gymru, dywed Llafur y byddant hefyd yn gwarantu isafswm cyllid i Lywodraeth Cymru, ond nid ydynt eto wedi cyhoeddi beth fydd y ffigwr.

Yn ôl Llafur y bwriad yw sicrhau nad yw Cymru ar ei cholled oherwydd fformiwla Barnett - fformiwla sy'n rhannu arian yn ddibynnol ar faint y boblogaeth.