Dyn wedi marw ar ôl gwrthdrawiad yn Llanelli

Heol Arfryn Image copyright Google
Image caption Digwyddodd y gwrthdrawiad am tua 19:30 ar Heol Arfryn yn Llanelli

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad un cerbyd yn Llanelli nos Fercher.

Dywedodd yr heddlu bod y gwrthdrawiad wedi digwydd am tua 19:30 ar Heol Arfryn yn y dref.

Cafodd gyrrwr car Volvo coch, oedd yn y gwrthdrawiad, ei gymryd i'r ysbyty ble bu farw'n ddiweddarach.

Bu'r ffordd ar gau wrth i heddweision ddelio â'r digwyddiad, a dywedodd yr heddlu eu bod yn ymchwilio i union amgylchiadau'r ddamwain.