Bafetimbi Gomis allan am 'dair neu bedair wythnos'

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Ni fydd ymosodwr Abertawe Bafetimbi Gomis yn gallu chwarae am "dair neu bedair wythnos" oherwydd anaf.

Roedd rhaid i Gomis, 29, ddod oddi ar y cae yn hanner cyntaf gem gyfartal yr Elyrch yn erbyn Everton y penwythnos diwethaf.

Dywedodd y clwb mewn datganiad bod yr ymosodwr wedi cael anaf i'w linnyn y gar.

Mae'n debyg y bydd y Ffrancwr yn methu gemau oddi cartref yng Nghaerlŷr a Newcastle a'r gêm gyda Stoke ar y Liberty.

Gobaith y clwb yw y bydd yn holliach i deithio i Lundain i herio Arsenal ar Mai 11.

Ers i Wilfired Bony symud i Manchester City roedd Gomis wedi bod yn aelod pwysig o garfan Garry Monk, ac wedi sgorio pedair gôl mewn saith gem cyn yr anaf.