BBC Cymru Fyw

Caernarfon: Swyddi teledu yn y fantol

Published
image copyrightcwmni da
Mae gweithwyr cwmni cynhyrchu teledu yng Nghaernarfon wedi cael gwybod fod rhai swyddi yn y fantol.
Mae BBC Cymru Fyw ar ddeall fod staff Cwmni Da wedi cael gwybod ddydd Gwener fod diswyddiadau ar y gweill.
Mae 65 o bobl yn gweithio i'r cwmni, gan gynnwys swyddi cynhyrchu, cyfarwyddo, golygu a gweinyddol.
Ers i'r cwmni gael ei sefydlu yn 1997 mae wedi datblygu i fod yn un o brif gwmnïau cynhyrchu Cymru.
Mae cynnyrch teledu'r cwmni yn cynnwys rhaglenni ffeithiol, plant, comedi, adloniant, drama, digwyddiadau a chwaraeon.
Ac mae'r cwmni'n creu cynnwys ar gyfer S4C, y BBC a Channel 4, ac yn cyd-gynhyrchu ar y farchnad ryngwladol.

Canolfan newydd 2013

image captionAgorwyd canolfan newydd Cwmni Da yn hen adeilad y Goleuad ger Doc Fictoria yn 2013
Ym mis Medi 2013 fe agorodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ganolfan newydd Cwmni Da yn hen adeilad Y Goleuad ger Doc Fictoria yng Nghaernarfon.
Mae Iestyn Garlick, Cadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru, wedi dweud: "Mae hi wastad yn siom fawr clywed am ddiswyddiadau o fewn y sector cynhyrchu yng Nghymru, ond yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, yn aml mae'n rhywbeth sy'n gorfod digwydd.
"Dyma ergyd arall i'r diwydiant yng Nghaernarfon."
Nid yw Cwmni Da wedi gwneud unrhyw sylw ar y mater.