Digwyddiad i goffáu Dr John Davies

  • Cyhoeddwyd
Dr John Davies

Bydd digwyddiad yn cael ei gynnal yn Neuadd Dinas Caerdydd ddydd Gwener i goffáu'r hanesydd, Dr John Davies.

Yn ôl ei deulu bydd y digwyddiad yn gyfle i rannu atgofion am un o gewri Cymru ac i wrando ar deyrngedau gan Jon Gower, Cynog Dafis, Peter Stead, Tweli Griffiths a Karl Davies.

Mae cronfa eisoes wedi'i sefydlu er cof amdano, gyda'r nod o gefnogi creu canolfan Gymraeg yng Nghaerdydd.

Bu farw'r hanesydd a'r darlledwr yn 76 oed ym mis Chwefror.

Roedd John Davies yn un o haneswyr amlyca'r wlad ac mae ei gyfrol 'Hanes Cymru', gafodd ei chyhoeddi gyntaf yn 1990 gydag ail argraffiad yn 2006, wedi'i disgrifio fel y cofnod mwyaf cynhwysfawr o hanes y genedl.

Yn frodor o Dreorci yng Nghwm Rhondda, fe symudodd gyda'i deulu i bentre' Bwlch Llan yng Ngheredigion ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd ac roedd llawer yn ei alw'n John Bwlch Llan.

Ar ôl astudio ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd, a Choleg y Drindod, Caergrawnt, roedd yn darlithio ym mhrifysgolion Abertawe ac Aberystwyth, ble oedd yn Warden Neuadd Pantycelyn am 18 mlynedd.

Roedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y 1960au.

Yn ddarlledwr poblogaidd, roedd yn Gymrawd yr Academi. Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2010 gyda'i gyfrol 'Cymru: Y 100 lle i'w gweld cyn marw'.

Ymhlith ei lyfrau eraill, mae hanes teulu Ardalydd Bute a Chaerdydd, a hanes y BBC yng Nghymru.