Ed Miliband: Dim 'addewidion ffug' i Gymru

Dadl

Mae arweinydd y blaid Lafur Ed Miliband wedi dweud na fydd yn gwneud "addewidion ffug" dros gynyddu cyllideb Cymru.

Roedd Mr Milliband yn siarad yn ystod dadl arweinyddion y pleidiau gan y BBC nos Iau.

Fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood osod sialens iddo i ariannu Cymru ar yr un lefel a'r Alban, ar ffurf £1.2bn ychwanegol y flwyddyn.

Dywedodd Mr Milliband for Llafur eisiau "ariannu teg" i Gymru, ond nad oedd yn beth "cyfrifol" i wneud y fath addewid o ran arian cyhoeddus.

Mewn dadl nad oedd yn cynnwys arweinydd y Ceidwadwyr David Cameron ac arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Nick Clegg, cafodd Ed Miliband glywed ei fod angen bod yn fwy mentrus gyda gwariant.

'Ariannu teg'

Dywedodd Ms Wood wrtho: "A wnewch chi gytuno nawr fod Cymru yn haeddu cydraddoldeb gyda'r Alban, ac os nad, fedrwch chi gyfiawnhau pam ddim?"

"Tydw i ddim yn mynd i wneud addewidion ffals i chi nawr, Leanne, ar y llwyfan hwn, gan nad ydi o'n beth cyfrifol, gan fod ganddo ni ddiffyg ariannol sydd yn rhaid ei ostwng," atebodd.

"Rydym ni am weld ariannu teg i Gymru, ac rydym wedi dweud hyn", pwysleisiodd Ed Milliband.

Dywedodd Nicola Sturgeon, arweinydd yr SNP: "Os na fydd Llafur yn ddigon mentrus ar ei phen ei hun, rwy'n credu y dylai pobl bleidleisio dros bleidiau fydd yn gwneud y blaid Lafur yn atebol a'u gwneud yn fwy mentrus."

Galwodd Ms Wood ar Mr Miliband i gynnal "cyllideb frys", i wrthdroi'r toriadau gafodd eu gwneud gan Mr Cameron a Mr Clegg.

Dywedodd arweinydd y blaid Lafur fod "gwahaniaeth anferth" rhwng ei gynlluniau a chynlluniau'r Ceidwadwyr, ac y byddai'n recriwtio mwy o ddoctoriaid a nyrsys, fedi ei ariannu'n rhannol gan dreth ar dai drud, a chael gwared ar yr hyn sydd yn cael ei alw'n dreth ar "ystafelloedd gwely".

Dywedodd ei fod yn gwrthod y dadleuon gan bleidiau oedd yn ceisio dod a'r Deyrnas Unedig i ben.

'Ffars'

Galwodd arweinydd UKIP, Nigel Farage, gynlluniau gwariant y pleidiau eraill yn "ffars", a chyhuddo'r BBC o ddewis cynulleidfa oedd yn gwyro i'r chwith yn wleidyddol.

"Mae'r gynulleidfa go iawn adref", meddai.

Dywedodd cyflwynydd y rhaglen David Dimbleby fod corff annibynnol wedi dewis y gynulleidfa ar gyfer y darllediad.

Yn ôl arweinydd y Blaid Werdd Natalie Bennett, roedd y Blaid Werdd yn cynig sialens go iawn, gan "gynnig miliwn o swyddi newydd, mynd i'r afael a newid yn yr hinsawdd, a diogelu gwasanaethau cymunedol hanfodol."

Wedi'r ddadl, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn Nhŷ'r Cyffredin William Hague ei fod yn "glir iawn" fod Nicola Sturgeon eisiau "rhoi Ed Miliband yn Downing Street a'i wthio i sefyllfaoedd mwy eithafol".

Dywedodd Danny Alexander o'r Democratiaid Rhyddfrydol y byddai "pleidleisiwr y tir canol" wedi ei "ddychryn" gan y ddal.

Roedd clymblaid "gyfrifol, cryf a chytbwys" angen y Democratiaid Rhyddfrydol meddai.

Image caption Bu'r pum arweinydd yn dadlau am 90 munud

Dadansoddiad Gohebydd Seneddol BBC Cymru, Elliw Gwawr

Fel yr unig ymgeisydd yn y ddadl gyda gobaith o fod yn brif weinidog roedd gan Ed Miliband ddigon i'w golli ar y noson. Roedd yn anochel ei fod o'n mynd i wynebu ymosodiadau gan y pedwar arweinydd arall.

Ac o'r dechrau dyna ddigwyddodd, wrth i Leanne Wood, Nicola Sturgeon a Natalie Bennett ei herio i ymuno gyda nhw i wyrdroi toriadau'r Ceidwadwyr, a gwrthod llymder.

Roedd yn sicr yn ddechrau anghyfforddus i Ed Miliband, oedd yn awyddus i roi digon o ddŵr coch croyw rhyngddo fo a David Cameron ar y mater.

Ond roedd y tair yr un mor barod i ymosod ar David Cameron hefyd, ac ar y cyfan roedd perfformiad Ed Miliband yn ddigon cyfforddus a hyderus, a'r gambl o ymddangos heb David Cameron wedi gweithio. Fe gafodd gyfle i annerch yr etholwyr yn uniongyrchol, ac i ymosod ar y Ceidwadwyr dro ar ôl tro, roedd o hyd yn oed yn edrych yn brif weinidogol ar adegau.

Yr Alban

Ond nid Cameron yw ei unig bryder yn yr etholiad hwn, mae ei ffawd yn ddibynnol iawn ar beth fydd yn digwydd yn yr Alban, ac felly roedd o'n angenrheidiol ei fod o'n herio Nicola Sturgeon o'r SNP hefyd. Yn sicr fe wnaeth o drio, ond roedd perfformiad Nicola Sturgeon yn rhy dda unwaith eto, iddo daro unrhyw ergyd angheuol.

Er hynny, y gwrthdaro rhwng y ddau oedd y cyfnodau mwyaf diddorol yn fy marn i. Fe geisiodd Ed Miliband ymbellhau ei hun o'r SNP, ond mae'n bosib iawn y bydd angen help yr SNP os yw am ffurfio llywodraeth fis Mai, ac fe heriodd Nicola Sturgeon o i weithio gyda nhw er mwyn cadw'r Ceidwadwyr allan. Roedd y tensiwn yn amlwg, ac yn rhoi syniad i ni o ba mor anodd y bydd unrhyw drafodaethau mewn senedd grog.

Dylai Leanne Wood hefyd fod yn hapus efo'i pherfformiad heno. Er ei fod yn betrusgar ar adegau, roedd hi'n llawer mwy hyderus nag yn y ddadl ddiwethaf, ac ar ei chryfaf yn herio Ed Miliband yn uniongyrchol ar y toriadau y byddai ei blaid yn eu cyflwyno, er fwy nag unwaith fe gafodd ei hanwybyddu wrth iddo ddewis ymateb i Nicola Sturgeon yn ei lle.

Er na fydd hynny o reidrwydd yn arwain at newid mawr yn yr arolygon barn, fydd o'n sicr ddim wedi gwneud unrhyw niwed i'w phoblogrwydd.

Gellir dweud yr un peth am Natalie Bennett o'r blaid Werdd hefyd, wnaeth berfformio yn llawer gwell y tro hwn.

Ar y llaw arall doedd hi ddim yn noson dda i Nigel Farage o UKIP, wnaeth golli ei dymer ar un pwynt ac ymosod ar y gynulleidfa am fod yn rhy asgell chwith. Nid y syniad gorau y bydde chi'n ei feddwl.

Absenoldeb dau arweinydd

Ond heb David Cameron a Nick Clegg roedd y ddadl hon yn teimlo ychydig yn od.

Doedd David Cameron ddim eisiau bod yn rhan o'r ddadl hon, ond efallai y bydd o'n difaru hynny nawr. Roedd ei absenoldeb yn amlwg iawn, gyda chyhuddiadau gan y pleidiau eraill ei fod yn osgoi neu yn ofn dadl. Roedd yna ddigon o ymosodiadau arno gan yr arweinwyr eraill, heb unrhyw gyfle iddo fo ymateb.

Ond beth sy'n waeth na chael pobl yn ymosod arnoch chi? Cael eich anwybyddu yn llwyr. A dyna ddigwyddodd i'r Democratiaid Rhyddfrydol heno. Wnaeth neb grybwyll enw Nick Clegg o gwbl, ond fe aeth o ar wefan twitter i esbonio nad oedd o yno, gan nad oedd o wedi cael gwahoddiad, ac y buasai'n fwy na hapus i fod yno i amddiffyn record y llywodraeth.