Marwolaeth babi: Erlyniad yn cloi eu hachos

  • Cyhoeddwyd
Amelia JonesFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent

Mae llys wedi clywed bod dyn o Gwmbrân sydd wedi'i gyhuddo o lofruddio ei wyres wedi gofyn i rywun arall ddweud eu bod nhw wedi "gollwng" y ferch fach bum wythnos oed.

Mae Mark Jones, sy'n ymddangos gerbron Llys y Goron Casnewydd, yn gwadu lladd Amelia Jones dair blynedd yn ôl.

Dydd Gwener clywodd y llys bod Mark Jones wedi gofyn i berson arall, nad oes modd ei enwi, i ddweud celwydd wrth yr heddlu am beth ddigwyddodd ar y noson cafodd y babi ei chludo i'r ysbyty.

Clywodd y rheithgor gyfweliadau heddlu, ble wnaeth y person ddweud bod Mark Jones wedi gofyn iddyn nhw gymryd cyfrifoldeb am anafiadau angheuol y ferch.

"Celwydd"

Dywedodd y person wrth yr heddlu, "roedd pawb yn gwybod mai celwydd oedd o", gan ychwanegu "roedd pawb yn gwybod bod hynny'n anghywir".

Clywodd y llys bod Mark Jones wedi honni bod y person wedi gollwng Amelia Jones ar y dydd Sadwrn pan roedden nhw'n "chwarae" gyda'u ffôn.

Yn ddiweddarach, dywedodd nad oedd hynny wedi digwydd.

Yn y cyfweliad dywedodd y person eu bod yn ceisio "cael Mark Jones allan o drwbl", gan ddweud "celwydd oedd o, wnaeth ddim o hynny ddigwydd, wnes i ddim gafael arni na'i gollwng", gan ychwanegu "dywedodd wrtha ddweud mod i wedi'i gollwng".

Mae'r erlyniad wedi gorffen cyflwyno eu hachos yn erbyn Mark Jones, ac mae disgwyl i'r amddiffyniad gychwyn cyflwyno eu hachos ddydd Llun.

Mae Mark Jones yn gwadu llofruddiaeth.