6.2% yn ddi-waith yng Nghymru, yn ôl ffigyrau newydd
- Cyhoeddwyd

Mae llai o bobl yn ddi-waith yng Nghymru ac ar draws y DU, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Rhwng mis Rhagfyr a Chwefror roedd 12,000 yn llai yn ddi-waith na'r tri mis blaenorol - rhwng Medi a Thachwedd.
Mae 6.2% o bobl yng Nghymru heb waith, o'i gymharu â'r ffigwr o 5.6% ym Mhrydain.
Roedd 24,000 yn fwy o bobl mewn gwaith yng Nghymru rhwng Rhagfyr a Chwefror, o'i gymharu â'r tri mis blaenorol.
Ond Cymru yw'r unig ran o'r DU lle mae llai o bobl mewn gwaith nag oedd 12 mis ynghynt.
Ar draws y DU, mae'r gyfradd o bobl mewn gwaith ar ei uchaf ers 1971.