Unedau brys: Amseroedd aros yn codi ychydig
- Cyhoeddwyd

Mae amseroedd aros ar gyfer cleifion sydd am gael triniaeth mewn unedau brys yng Nghymru wedi codi rhywfaint.
Yn ôl y ffigyrau diweddara fe gafodd 82.3% o gleifion driniaeth mewn uned frys o fewn pedair awr ym mis Mawrth.
Mae hynny'n cymharu â 83.8% ar gyfer Chwefror a dipyn yn is na'r 87.7% a gofnodwyd ar gyfer Chwefror 2014.
Fe wnaeth canran y cleifion fu'n rhaid aros mwy na 12 awr gynyddu ychydig o 2,201 yn Chwefror 2015 i 2,443 ym Mawrth.