Damwain farwol: Apelio am dystion
- Cyhoeddwyd

Roedd y ddamwain am 16.10
Mae'r heddlu'n apelio am dystion wedi damwain farwol ar gylchfan brynhawn Gwener.
Am 16:10 roedd gwrthdrawiad rhwng beic modur Yamaha a char VW Polo du ar yr A4059 yn Aberdâr.
Dywedodd parafeddygon fod y beiciwr modur 29 oed o ardal Merthyr yn farw yn y fan a'r lle.
Cafodd dyn ei arestio.
Roedd y ddamwain yn Stryd Harriet, Aberdâr, a chyrhaeddodd dau ambiwlans ac ambiwlans awyr.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: 'Rydyn ni wedi bod yn delio â damwain ddifrifol."
Roedd y ffordd osgoi ar gau am oriau a hyn yn arwain at dagfeydd rhwng y B4276 (Cylchfan Llwydcoed) a Chylchfan Robertstown.
Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio 101 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555 111.