Ed Miliband: Dim clymblaid rhwng Llafur a Plaid Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae arweinydd y blaid Lafur Ed Miliband wedi dweud na fydd clymblaid gyda Plaid Cymru wrth iddo wneud ei ymweliad cyntaf â Chymru yn ei ymgyrch etholiadol.
Dywedodd bod yr etholiad yn ddewis rhwng y Ceidwadwyr, sy'n "rhedeg y wlad er budd y cyfoethog", neu Llafur, sy'n "rhoi pobl mewn gwaith yn gyntaf".
Dywedodd y Torïaid ddydd Sadwrn eu bod yn bwriadu codi lwfansau treth bersonol i £12,500.
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cyhoeddi cynlluniau i hyrwyddo prentisiaethau.
Ar ôl gwrthod unrhyw glymblaid, dywedodd Mr Miliband y byddai cael llywodraeth Lafur mwyafrifol fyddai "orau i Gymru a orau i'r DU".
'Dewis mawr'
Dywedodd: "Mae 'na ddewis mawr yr etholiad yma. Ydyn ni yn cael llywodraeth Geidwadol gyda David Cameron sy'n rhedeg y wlad er budd y bobl gyfoethocaf a fwya' pwerus?
"Ynteu ydyn ni'n cael llywodraeth Lafur wedi ei arwain gen i sy'n rhoi pobl mewn gwaith yn gyntaf?"
Ond fe ddywedodd David Cameron ddydd Gwener bod pobl Cymru yn gwybod "yn fwy 'na neb am y difrod y gall Llafur ei wneud".
Yn lansio maniffesto'r blaid ar gyfer Cymru ym Mhowys, dywedodd Mr Cameron ei bod yn rhagrith ac yn siom nad oedd Llafur Cymru wedi gwarchod gwariant ar iechyd yn yr un ffordd roedd ei blaid ef wedi ei wneud yn Lloegr.
Yn ymateb, dywedodd Mr Miliband: "Mae'r ffordd mae David Cameron wedi trin y mater fel pêl-droed wleidyddol."
Amddiffynnodd record ei blaid yng Nghymru, a ni roddodd ffigwr ar gyfer y nawdd fyddai ar gael i Gymru yn y dyfodol.
'Treth swyddi'
Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood hefyd wedi cyhuddo Llafur o ragrith, am ymosod ar doriadau gwariant cyhoeddus y Ceidwadwyr wrth wrthod ymrwymo i wrthdroi'r toriadau hynny.
Ni fyddai ASau Plaid Cymru yn cefnogi llywodraeth Lafur lleiafrifol. "Byddai hynny yn cynrychioli eithafion llymder ar ei waethaf", rhybuddiodd.
Hefyd ddydd Sadwrn, bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn cyhoeddi cynlluniau i gael gwared ar "dreth swyddi ar weithwyr ifanc".
Mae'r blaid yn dweud eu bod am redeg cynllun sy'n eithrio busnesau rhag talu yswiriant gwladol ar enillion prentisiaid o dan 25 oed, a hynny i ddod i rym y flwyddyn nesaf, ac i bara drwy gydol y senedd nesaf.