Gorchuddio ffenestri siopau mewn protest
- Published
Mae perchnogion siopau mewn tref yn y canolbarth yn bwriadu dangos eu gwrthwynebiad i gynlluniau ar gyfer archfarchnad drwy orchuddio eu ffenestri i ddangos sut y gallai'r stryd fawr edrych pe bai'r datblygiad yn mynd yn ei flaen.
Mae pobl eisoes wedi protestio ac mae cyfarfodydd wedi'u cynnal o'r blaen yng Nghrughywel, Powys, yn erbyn cynlluniau i droi tafarn y Corn Exchange i fod yn siop.
Fe fydd perchnogion siopau yn gorchuddio eu ffenestri â chardfwrdd brynhawn Sadwrn.
Dywedodd y pobydd Steve Askew eu bod eisiau dangos sut y gallai stryd fawr y dref edrych petai'r siopa annibynnol yn cau.
"Petai'r archfarchnad yn dod i'r dref, rydym yn credu y gallai hynny gael effaith fawr ar hyd at wyth o fusnesau teuluol annibynnol," meddai.
Dywedodd wrthwynebwyr mai dim ond un siop yn y dref sy'n rhan o gadwyn genedlaethol ar hyn o bryd - sef siop y fferyllydd, Boots - tra bod pob busnes eraill yn rhai teuluol ac annibynnol.
Bydd y penderfyniad terfynol ar y cais yn cael ei wneud gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Y Bannau Brycheiniog.