Caerdydd 0-0 Millwall

  • Cyhoeddwyd
Caerdydd v MillwallFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Fe wnaeth gêm ddigynnwrf rhwng Caerdydd a Millwall orffen yn 0-0 yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sadwrn.

Caerdydd aeth agosaf yn yr hanner cyntaf, gyda Joe Ralls yn taro'r trawst gydag ergyd o'r asgell, a'r ymwelwyr gafodd y cyfle gorau yn yr ail wrth i Mark Beevers daro'r un trawst i Millwall.

Golyga'r canlyniad bod Caerdydd yn aros yn y 13eg safle yn y Bencampwriaeth gyda dwy gêm ar ôl nes diwedd y tymor.