Cyngor yn trafod newidiadau i'r Eisteddfod Genedlaethol

  • Cyhoeddwyd
Cyngor yr Eisteddfod
Disgrifiad o’r llun,
Ymysg y newidiadau posib mae sefydlu ail bafiliwn, llai, ar y maes

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi datgelu ei fod yn ystyried newidiadau i'r pafiliwn ac i gystadlaethau mewn ymdrech i gynyddu poblogrwydd yr ŵyl.

Ymysg y newidiadau posib - gafodd eu cyflwyno i gyngor yr Eisteddfod mewn cyfarfod yn Aberystwyth brynhawn Sadwrn - mae sefydlu ail bafiliwn, llai, ar y maes.

Pe bai'r syniad yn cael ei gymeradwyo, byddai rhai cystadlaethau yn cael eu symud o'r prif bafiliwn i'r un llai.

Dywedwyd na fyddai'r newidiadau yma yn cael eu gweithredu erbyn Eisteddfod Maldwyn a'r Gororau eleni, ond y gallai gweld yr ŵyl ar ei newydd wedd am y tro cyntaf yn Eisteddfod Sir Fynwy a'r Cyffiniau yn 2016.

Awgrym arall gafodd ei gyflwyno oedd cael gwared ar uchafswm niferoedd mewn corau. Yr unig ofyniad fyddai cael o leiaf 20 aelod, felly gallai hyn olygu bod corau bychain yn cystadlu yn erbyn corau o dros 100 mewn nifer.

Dywedodd yr Eisteddfod mai nod y newidiadau yw denu mwy o gystadleuwyr a diddanu cynulleidfaoedd.

Clywodd y cyfarfod hefyd bod trefnwyr mewn trafodaethau gyda thair ardal am gynnal yr ŵyl ar ôl Sir Fynwy - fydd yn Ynys Môn yn 2017, Caerdydd yn 2018 a Chonwy yn 2019.

Dywedodd brif weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, bod nifer yn dal yn awyddus i groesawu'r ŵyl i'w hardal er y toriadau i gyllideb awdurdodau lleol.

Clywodd y cyngor hefyd gan Beryl Vaughan, cadeirydd y pwyllgor lleol ar gyfer yr Eisteddfod eleni. Dywedodd hi fod yr ŵyl wedi cyrraedd ei nod casglu arian o £267,000 yn barod, a'i bod yn gobeithio codi dros £300,000 erbyn y digwyddiad.