Islwyn Jones wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Islwyn 'Gus' Jones

Bu farw'r awdur Islwyn Jones oedd yn cael ei adnabod fel Gus.

Yn wreiddiol o Frynaman, bu'n dysgu yng Ngholeg Hyfforddi Athrawon Y Barri am 25 mlynedd.

Roedd yn un o lywyddion anrhydeddus Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg 2012, ac roedd yn adnabyddus yng nghylchoedd yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Ŵyl Gerdd Dant.

Roedd yn gyd-olygydd Blodeugerdd y Plant.

Angerddol dros Gymreictod

Wrth roi teyrnged i Gus ar raglen y Post Cyntaf, dywedodd Euryn Ogwen Williams o'r Barri: "Mi oedd yn hybu ac yn cynnal Cymreictod yn yr ardal am flynyddoedd".

"Mi oedd ei hiwmor yn aruthrol, roedd mor ddifyr i wrando arno, fel Wicipedia."

Dywedodd ei fod yn angerddol dros Gymreictod ac wedi trosglwyddo hyn i genedlaethau o athrawon.

"Roedd Gus yn athro athrawon ac mae rhywun yn teimlo bod yr hyn mae o wedi'i wneud wedi trosglwyddo reit ar draws Cymru, wrth i'r athrawon fynd allan ac ysbrydoli pobl eraill".

Ychwanegodd y bydd y Babell Lên yn lle tlotach heb Gus: "I selogion y Babell Lên mi fydd heddiw'n ddiwrnod trist oherwydd roedd o'n un o'r bobl oedd yn cyfrannu'n helaeth.

"Roedd o'n eistedd ac yn gwrando yno bob dydd yn yr Eisteddfod ble bynnag oedd hi, doedd o byth yn colli'r Eisteddfod.

"Fydd na lot o bobl ar draws Cymru'n teimlo'n drist bore 'ma."