Darganfod corff mewn pwll yn Nhreffynnon

  • Cyhoeddwyd
Treffynnon

Mae corff dyn yn ei 20au wedi ei ddarganfod mewn pwll mewn parc treftadaeth yn Sir y Fflint.

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru a gwasanaethau brys eraill eu galw i Ddyffryn Maes Glas, ger Treffynnon, yn oriau mân fore Llun.

Dywedodd yr heddlu bod marwolaeth y dyn wedi'i gofnodi yn yr ysbyty. Mae perthnasau'r dyn wedi cael gwybod am y farwolaeth.

Mae'r heddlu hefyd wedi cadarnhau bod ail ddyn wedi cael ei gludo i'r ysbyty am driniaeth wedi'r digwyddiad.

Mae'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un heb ei hesbonio.

Mae ymchwiliad wedi'i ddechrau i'r farwolaeth.