Diffoddwyr yn delio â thân gwair mawr ar Fynydd Machen

  • Cyhoeddwyd
Mynydd Machen
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y tân ei ddiffodd ddydd Sul cyn ailgynnau fore Llun.

Mae diffoddwyr yn ceisio delio â thân gwair mawr ar Fynydd Machen ger Caerffili.

Dywedodd y gwasanaeth eu bod wedi derbyn cannoedd o alwadau 999 oherwydd y tân a bod llinellau brys "o dan bwysau mawr".

Cafodd y tân ei ddiffodd ddydd Sul cyn ailgynnau fore Llun.

Mae'r tân wedi effeithio ar 100 hectar o dir, yr un faint a 140 o gaeau pêl-droed.

Dros y penwythnos fe gafodd diffoddwyr y de eu galw i ddiffodd 156 o danau gwair - 136 ohonyn nhw wedi eu cynnau'n fwriadol.

Dywedodd y gwasanaeth ar Twitter: "Mae criwiau'n delio â thân ar Fynydd Machen, Rhisga, ar safle lle oedd tân gwair difrifol neithiwr ...

"Tra'n bod ni'n ddiolchgar am eich galwadau, mae ein llinellau brys o dan bwysau mawr."

Ers dechrau Ebrill mae 670 o danau gwair wedi bod yn y de - 620 ohonyn nhw wedi eu cynnau'n fwriadol.