Anghenion arbennig: Pryder am dacsis
- Cyhoeddwyd

Mae cwestiynau wedi cael eu codi ynglŷn â'r modd mae Cyngor Sir Wrecsam yn rheoli'r gwasanaeth tacsi sy'n cael ei ddefnyddio gan ddisgyblion ysgol sydd ag anghenion addysgol arbennig.
Dywedodd un fam i blentyn sydd ag awtistiaeth fod y gwasanaeth a'r gyrrwr tacsi oedd yn cludo ei mab i'r ysgol wedi cael ei newid heb roi gwybod iddi.
Yn ôl Elin Llwyd Morgan, sy'n fam i Joel, ni dderbyniodd hi lythyr o rybudd gan y Cyngor ynglŷn â'r newidiadau. Y bore ysgol hwnnw oedd y tro cyntaf i Joel gyfarfod â'r gyrrwr newydd.
I bobl sydd ag awtistiaeth, mae mân newidiadau yn gallu achosi straen, yn enwedig os ydyn nhw wedi arfer gyda threfn benodol.
Mae Elin yn poeni nad ydi'r cyngor yn rhoi ystyriaeth i ofynion disgyblion sydd ag anghenion arbennig cyn gwneud newidiadau, ac mi fyddai'n hoffi gweld gofynion y plant yn cael eu blaenoriaethu cyn gwneud arbedion ariannol.
Dywedodd Elin: "Os ydyn nhw'n gweld bod plant yn cyd-dynnu'n dda efo tywysydd ag efo gyrrwr tacsi penodol, mi fyswn ni'n licio iddyn nhw sticio at hynny.
"Ond fel y mae hi, mae o i gyd yn ymwneud â phres neu ddiffyg pres a thoriadau o fewn y gwasanaethau. Dwi'n meddwl y dylie nhw fod yn canolbwyntio mwy ar anghenion plant efo anghenion arbennig sy'n mynd i'r ysgolion yma, yn hytrach na bod bob dim yn troi o gwmpas arian."
Gwella ymwybyddiaeth
Mi fyddai gwella ymwybyddiaeth o awtistiaeth yn helpu'r rhai sy'n delio a phobl gyda'r cyflwr yn ddyddiol yn ôl Meleri Thomas o Gymdeithas Cenedlaethol Awtistiaeth Cymru.
"Mae ymwybyddiaeth pobl o Awtistiaeth wedi codi, ond bydden ni'n hoffi gweld mwy o ymwybyddiaeth o'r cyflwr trwy gynghorau ymysg pobl sy'n delio gyda phobl ag awtistiaeth o ddydd i ddydd - fel athrawon a doctoriaid.
"Ond mae 'na lefel arall o bobl fyddai'n cael budd o well ymwybyddiaeth o awtistiaeth fel pobl sy'n gyrru tacsi, pobl sy'n gweithio mewn siopau ac yn y blaen."
Mewn ymateb, mae Cyngor Sir Wrecsam wedi dweud bod newid i'r gwasanaeth wedi dod o ganlyniad i broses o ail-gynnig cytundebau sy'n digwydd bob tair blynedd a'u bod yn "ysgrifennu at y rhai sy'n cael eu heffeithio pan mae unrhyw newidiadau fel arfer."
Fodd bynnag mae'r awdurdod yn cyfaddef nad yw hyn wedi digwydd y tro yma - ac maen nhw'n ymddiheuro am unrhyw straen neu bryder a gafodd ei achosi.
Maen nhw ddweud eu bod yn edrych ar eu trefniadau er mwyn sicrhau nad oes achos tebyg yn y dyfodol.