Canolfan alwadau i greu 300 o swyddi

  • Cyhoeddwyd

Fe fydd cannoedd o swyddi newydd yn cael eu creu mewn canolfan alwadau yng Nghaerdydd.

Dywedodd cwmni Firstsource Solutions y bydd staff newydd yn cael eu ychwanegu at y gweithlu o 800 sydd eisoes wedi eu lleoli ym Mae Caerdydd.

Mae'r 300 o swyddi newydd yn cynnwys gwerthu dros y ffôn a rolau gwasanaeth cwsmeriaid.

Dywedodd is-lywydd adran gwerthiant y cwmni, Kathryn Chivers fod: "Solutions Firstsource yn falch iawn o allu parhau i ddod â swyddi newydd i Gaerdydd."