Colli 90 o swyddi yng Ngwynedd

  • Cyhoeddwyd
trawsfynydd

Mae perchnogion gorsaf ynni niwclear Trawsfynydd, Magnox, wedi cyhoeddi y bydd 90 o swyddi yn cael eu colli.

Bydd y gweithwyr, sy'n gweithio i wahanol gontractwyr yn Nhrawsfynydd, yn colli eu swyddi rhwng nawr a diwedd y flwyddyn.

Mae tua 180 o weithwyr yn cael eu cyflogi gan Magnox ar y safle, a bydd nifer y bobl sy'n cael eu cyflogi gan gontractwyr yn lleihau o 220 i 130 o ganlyniad i'r diswyddo.

Daeth y gwaith o gynhyrchu trydan i ben yn y pŵerdy yn 1991, ac fe fydd cyfnod o "ofal cynnal a chadw" yn dechrau ar y safle yn 2016.