BBC Cymru Fyw

Rhagor o danau gwair dros nos

Published
image copyrightJon Goodall
image captionRoedd 'na dân sylweddol uwchben y Gaer yng Nghasnewydd
Dros nos, mae diffoddwyr wedi bod yn parhau i ddelio â nifer o danau gwair ledled Cymru - nifer o'r rhai hynny wedi eu cynnau'n fwriadol.
Ym Mlaenau Ffestiniog, cafodd criwiau eu galw i bedwar tân.
Bu diffoddwyr o wasanaeth y canolbarth a'r gorllewin yn delio â thanau ar Fynydd Cilfái, Abertawe ac ar fynydd Cefn Drum rhwng Rhydaman a Phontarddulais.
Yn y de, fe ledodd tân dros chwe hectar uwch y Gaer yng Nghasnewydd nos Lun.
Fe lwyddodd diffoddwyr i reoli tân anferth ar fynydd Machen, Caerffili erbyn hanner nos. Mae ymchwilwyr yno fore Mawrth yn asesu beth i'w wneud nesaf.
image copyrightKayle Garkut
image captionMae'r ymchwilio'n parhau ar fynydd Machen ddydd Mawrth