Tanau: Trigolion yn cynorthwyo diffoddwyr

  • Cyhoeddwyd
Godre Graig

Mae trigolion o gymunedau ar draws de Cymru wedi dod at ei gilydd er mwyn ceisio darganfod y bobl sy'n cynnau tanau bwriadol.

Mae diffoddwyr tân yn ne Cymru wedi mynd i'r afael â 623 o danau gwair bwriadol ers 1 Ebrill.

Dydd Llun daeth i'r amlwg bod plant mor ifanc ag 11 oed ymysg y rheiny sydd wedi eu harestio ar amheuaeth o gynnau'r tanau.

Erbyn hyn mae trigolion wedi mynd at Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru i wirfoddoli fel "gwylwyr".

'Llond bol'

Dywedodd Gareth Davies - rheolwr gyda'r gwasanaeth tân gyda chyfrifoldeb am ardal Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful - wrth raglen Good Morning Wales y BBC, bod trigolion wedi "cael llond bol".

"Mae trigolion yn cysylltu efo ni... er mwyn darganfod allen nhw ein helpu a'n cefnogi o ran mynd allan i'r mynyddoedd.

"Mae nifer ohonyn nhw'n dod at ei gilydd ac yn gwylio ar ein rhan... a hynny yn y lleoliadau ble mae'r tanau wedi cael eu cynnau, er mwyn ceisio darganfod y drwgweithredwyr a rhoi'r wybodaeth honno i'r heddlu.

"Mae hwn yn ddatblygiad positif a byddwn yn dweud wrth bobl - os ydyn nhw eisiau ein helpu, ewch i'r orsaf dân leol, a gallwn gydweithio i ddod â'r tanau i ben."

Ffynhonnell y llun, Jon Goodall
Ffynhonnell y llun, Kayle Garkut