Marwolaeth: Carcharu gyrrwr am bedair blynedd a hanner

  • Cyhoeddwyd
Paul WilsonFfynhonnell y llun, Gwent Police

Mae gyrrwr wedi'i garcharu am bedair blynedd a hanner wedi iddo daro, a lladd heddwas tra'n yfed a gyrru ar gyflymder o 119mya.

Roedd y Swyddog Cymunedol Alwyn Pritchard, 53 oed, ar ei ffordd adref ar ei feic modur pan gafodd ei daro gan gar Audi arian Paul Wilson ym mis Awst y llynedd.

Mi wnaeth Wilson, 38 oed sy'n yrrwr lori profiadol, gyfaddef yfed "cwpl o beints o Peroni a dwy botel o Corona", a dywedodd ei fod yn gyrru ar gyflymder o 70mya.

Ond mi wnaeth ymchwiliad gan yr heddlu ddod i'r casgliad bod y car yn teithio ar gyflymder o bron i 120mya ar ran o Ffordd Blaenau'r Cymoedd, ger Y Fenni, ble mae'r cyfyngiad cyflymder yn 70mya.

Roedd Wilson o Rasa, ger Glyn Ebwy, wedi pledio'n euog i achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, methu ag ildio'i hun i'r heddlu ac yfed a gyrru.

Cafodd ei ddedfrydu i bedair blynedd a hanner o garchar a chafodd ei ddiarddel rhag gyrru am bedair blynedd.

'Dyn da'

Mewn datganiad gafodd ei ddarllen yn y llys, dywedodd ei merch Alwyn Pritchard, Carly: "Ni fydd fy nheulu byth yr un fath.

"Roedd yn ddyn da, gyda'i deulu, yn ei gymuned, ac yn ei waith fel SCCH gyda Heddlu Gwent."

Yn dilyn y gwrandawiad dywedodd yr Arolygydd Martyn Smith: "Mae colli Alwyn Pritchard wedi cael effaith fawr ar y gymuned - yn enwedig ar ei ffrindiau a'i gyd-weithwyr - ond yn fwy na hynny, ar ei deulu.

"Maen nhw wedi dweud er iddyn nhw gael eu torri gan boen a galar, maen nhw'n cael eu huno gan gariad."