Tŷ Newydd yn dathlu chwarter canrif

  • Cyhoeddwyd
Gillian Clarke
Disgrifiad o’r llun,
Gillian Clarke oedd un o diwtoriaid y cwrs ysgrifennu creadigol cyntaf yn Nhŷ Newydd

Bydd Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn dathlu ei phen-blwydd yn 25 oed gyda phrynhawn yng nghwmni Bardd Cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke.

Agorodd Tŷ Newydd ei drysau am y tro cyntaf yn Ebrill 1990, wrth i'r criw cyntaf o gyw-awduron fynychu cwrs barddoniaeth.

Ers y cwrs hwnnw dan ofal Gillian Clarke a Robert Minhinnick, mae cannoedd o oedolion a phobl ifanc wedi ymweld â Thŷ Newydd bob blwyddyn.

Mae pobl yn dod i'r ganolfan i fynychu cyrsiau barddoniaeth, rhyddiaith a drama, ynghyd â chymryd rhan mewn encilion ysgrifennu creadigol.

Bydd Llenyddiaeth Cymru yn dathlu'r garreg filltir gyda chyfres o ddigwyddiadau ac ymgyrch codi arian.

Bydd yr ymgyrch 'Dathlu 25 Mlynedd' yn cael ei lansio ddydd Iau yn ystod Dosbarth Meistr Barddoniaeth dan ofal Gillian Clarke a Maura Dooley, sy'n digwydd bron union 25 mlynedd i'r wythnos y bu Gillian yn tiwtora'r cwrs ysgrifennu creadigol cyntaf yn Nhŷ Newydd.

Prynodd y Prif Weinidog, David Lloyd George, Tŷ Newydd yn 1943 er mwyn gallu ei ddefnyddio fel ei brif gartref, gan gomisiynu Clough Williams-Ellis, pensaer Portmeirion, i atgyweirio ac ymestyn y tŷ.