Mwy o gwynion am gamdrin anifeiliaid yn fwriadol
- Published
Fe wnaeth nifer y cwynion gafodd eu gwneud am gam-drin anifeiliaid yn fwriadol gynyddu yng Nghymru y llynedd, yn ôl yr RSPCA.
Fe wnaeth yr elusen ddelio gyda 1,389 o gwynion, cynnydd o 100 ar y flwyddyn cynt.
Roedd yr achosion yn cynnwys ci bach gydag anaf i'w ben gafodd ei daflu i afon yn y Rhondda, cŵn gyda salwch difrifol yn effeithio ar eu croen ym Mhrestatyn a cheffyl oedd llawer rhy denau yn Hwlffordd.
Roedd cwynion eraill yn ymwneud â churo, ymladd a gwenwyno anifeiliaid.
Er hynny, fe wnaeth nifer y bobl gafodd eu canfod yn euog o droseddau ostwng o 79 yn 2013 i 47 y llynedd.
Dywedodd yr elusen eu bod wedi bod yn llwyddiannus ym mhob un o'u hachosion llys am gam-drin.
Ond, dywedodd Uwcharolygydd RSPCA Cymru, Martyn Hubbard: "Mae'n bryderus iawn ein bod yn dal i dderbyn dros 1,300 o gwynion am anifeiliaid sy'n dioddef oherwydd camdriniaeth fwriadol.
"Mae'r rhan fwyaf o'r cwynion rydyn ni'n eu derbyn yn ymwneud â chael eu hesgeuluso neu ddim yn derbyn y gofal iawn ac yn aml fe allwn ni wella hynny drwy gynnig cyngor lles."
Straeon perthnasol
- Published
- 27 Mawrth 2015
- Published
- 19 Chwefror 2015
- Published
- 23 Rhagfyr 2014